Ymateb y Llywodraeth: Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Awdurdodau Cymreig Datganoledig) (Diwygio) 2024
Pwynt Craffu Technegol 2:
Nododd y Pwyllgor nad oedd y prif nodyn yn cynnwys cyfeiriad at y drafft yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru.
Lluniwyd y drafft i fod yn gyson â’r prif nodyn ar Orchmynion yn y Cyfrin Gyngor a wnaed yn flaenorol o dan adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Gellir gweld drafftiau o’r enghreifftiau diweddaraf fel y’u gosodwyd gerbron Senedd Cymru, OS 2019/1506 ac OS 2021/290, yma ac yma.
Nid yw prif nodiadau yn ymddangos mewn fersiynau terfynol o Orchmynion fel y’u gwnaed. Yn bwysig iawn, mae rôl Senedd Cymru wrth gymeradwyo’r drafft wedi ei chynnwys yn y cyflwyniad, a fydd yn rhan o’r Gorchymyn terfynol. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru o’r farn y dylai cyfeiriad at Senedd Cymru fod wedi ei gynnwys yn y prif nodyn fel mater o arfer da.
Gan nad yw geiriad y prif nodyn yn effeithio ar weithrediad y Gorchymyn, a chan fod cymeradwyaeth Senedd Cymru wedi ei nodi yn y cyflwyniad, nid ydym yn bwriadu ceisio diwygio’r drafft yn yr achos hwn; bydd hyn yn osgoi unrhyw oedi pellach o ran gwneud y Gorchymyn. Fodd bynnag, rydym wedi gofyn i Swyddfa Cymru sicrhau bod prif nodiadau ar Orchmynion drafft yn y dyfodol yn cynnwys cyfeiriad at rôl Senedd Cymru yn y broses.
Pwynt Craffu ar Rinweddau 3:
Cyhoeddwyd Datganiad Ysgrifenedig i ddiweddaru’r Aelodau ynghylch statws y Gorchymyn yn dilyn diddymu Senedd y DU. Byddwn, wrth gwrs, yn rhoi gwybod i’r Aelodau am hynt y Gorchymyn pan fydd Llywodraeth newydd y DU wedi ei ffurfio a phan fydd busnes seneddol wedi ailddechrau yn dilyn yr etholiad cyffredinol.